Rysáit i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd
Bardd mis Tachwedd 2022, Mererid Puw Davies, sy'n ymateb i'r argyfwng costau byw ar y rhaglen 'Gwneud Bywyd yn Haws'.
Rysáit i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd
(ar ôl Günter Grass)
I greu y saig mwyaf moethus, mynned
doriadau gorau y cig: y golwyth, yr ysgwydd, y goes.
Ond i’r sawl sydd am fyw’n gynnil,
cofied ein neiniau darbodus
yn paratoi’r scrag am oriau ers talwm,
y ffrei oen, y cigach, y syrth;
y wermod a’r frywes a’r potes pig tegell.
Ac os yw’r prynhawn yn mynd yn hirbryd
dewised y lobsgóws troednoeth
ateged lwyeidiau o ffacbys a ffa;
rhoed gynnig gobeithiol ar bopty brys.
A gall rhywun sy’n syllu yn llygad y geiniog
agor tuniau o datws i arbed y nwy
a’u halltu’n hael â gofal.
Ychwaneged fel tamaid i aros pryd
fesur o geirch neu ddogn o fran
a phupur sy’n eger fel pryder.
Gosoded y bwrdd â lliain main gofid
a’i addurno ag addewidion;
ac yn y pen draw, gweined y pryd
â dyrnaid fawr iawn o ddim.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Gwneud Bywyd yn Haws
-
Migraine - 4 cyfnod
Hyd: 00:53
-
Ymenydd migraine
Hyd: 04:21
-
Eilir Owen Griffiths
Hyd: 11:17
-
Gemau Fideo
Hyd: 06:20