ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Rysáit i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd

Gwneud Bywyd yn Haws

Available for over a year

Bardd mis Tachwedd 2022, Mererid Puw Davies, sy'n ymateb i'r argyfwng costau byw ar y rhaglen 'Gwneud Bywyd yn Haws'. Rysáit i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd (ar ôl Günter Grass) I greu y saig mwyaf moethus, mynned doriadau gorau y cig: y golwyth, yr ysgwydd, y goes. Ond i’r sawl sydd am fyw’n gynnil, cofied ein neiniau darbodus yn paratoi’r scrag am oriau ers talwm, y ffrei oen, y cigach, y syrth; y wermod a’r frywes a’r potes pig tegell. Ac os yw’r prynhawn yn mynd yn hirbryd dewised y lobsgóws troednoeth ateged lwyeidiau o ffacbys a ffa; rhoed gynnig gobeithiol ar bopty brys. A gall rhywun sy’n syllu yn llygad y geiniog agor tuniau o datws i arbed y nwy a’u halltu’n hael â gofal. Ychwaneged fel tamaid i aros pryd fesur o geirch neu ddogn o fran a phupur sy’n eger fel pryder. Gosoded y bwrdd â lliain main gofid a’i addurno ag addewidion; ac yn y pen draw, gweined y pryd â dyrnaid fawr iawn o ddim.

Programme Website
More episodes