Main content

Ffion Emyr yw gwestai Meinir yr wythnos hon. Byddwn hefyd yn clywed gan Siôn o brosiect cymunedol GwyrddNi a Lowri sydd am droi ei hoffter o dyfu blodau i fusnes.

Ffion Emyr sy’n ymuno â Meinir i drafod ei gardd fodern yng nghanol tref Caernarfon. Yn brosiect ddaru Ffion ymgymryd yn ystod 2020 tra oedd Ffion a’i phartner adref, pa ffordd well i wario’r cyfnod clo nac i weithio ar yr ardd? Elfen bwysig oedd datblygu mannau er mwyn adlonni ffrindiau a theulu ac i gael rhywle addas (a gwahanol) i fwyta brecwast, cinio a swper yn yr ardd. Mae’r ardd hyd yn oed wedi ennill gwobr yr ardd orau yng Nghaernarfon.

Gan fod Ffion yn disgwyl babi a’r nythu wedi cicio i mewn go iawn - mae hi hyd yn oed wedi bod yn dystio’r sied a hwfro’r glaswellt (oes, mae ganddi laswellt ffug ac os oes unrhyw un yn cael maddeuant am hynny, Ffion ydi’r un!). Oes lle iddi addasu’r ardd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yr ardal yn fwy ‘child friendly’ ac wrth feddwl am y dyfodol, ydi Ffion am fentro i dyfu fwy o’i chynnyrch ei hun?

Fe fyddwn ni hefyd yn clywed gan Siôn sy’n trafod prosiect GwyrddNi sy’n fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’r prosiect yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau garddio cymunedol ac wedi helpu sefydlu rhandiroedd yn ardal Dyffryn Nantlle.

Lowri sy’n sgwrsio am droi ei hoffter o dyfu blodau mewn i fusnes. Wrth ddod mewn i’w hail dymor tyfu eleni mae Lowri yn trafod dod yn fwy ymwybodol o gost prynu blodau sydd wedi eu mewnforio.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

33 o funudau

Podlediad