Dafydd Iwan
Dafydd Iwan sy’n ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau a hel atgofion am arddio yn ei blentyndod. Dafydd Iwan joins Meinir to talk about his passion for growing vegetables.
Dafydd Iwan sy’n ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau yn yr ardd. Yn ddiddordeb sydd wedi dod yn fwy amlwg iddo dros y deng mlynedd diwethaf, mae’n cael boddhad o ailgysylltu gyda natur. Mae codi yn y bore i weld be sydd wedi egino yn un o bleserau mawr bywyd bellach.
Yn y bennod yma, mi fydd Dafydd yn hel atgofion am ei blentyndod ac am ei ddiweddar frawd, Huw a’r rôl oedd garddio yn ei gymryd ym mywydau aelodau blaenllaw'r teulu.
Cawn hefyd glywed gan Sam sy’n rhedeg gardd farchnad Llysiau Menai ar Ynys Môn. Yno, mae’n tyfu cynnyrch tymhorol ar ddarn o dir dros acer. Fel bachgen ifanc, fuodd o’n tyfu a’n garddio efo’i deulu cyn gweithio ar sawl fferm llysiau ac yna sefydlu ei ardd farchnad ei hun.
Lleu sy’n trafod tyfu ar ei randir yng Nghaerdydd. Fe gychwynnodd garddio ar y tir tua 10 mlynedd yn ôl a’n defnyddio dulliau traddodiadol o droi'r tir, ond ar ôl datblygu poen cefn fe aeth ati i ymchwilio’r dull di-bal (no dig).
Meinir sy’n mynd ati i ateb un o’ch cwestiynau chi, gydag un o wrandawyr y podlediad yn holi am awgrymiadau o blanhigion sy’n gwrthsefyll cyfnodau hir o sychder. Ym Mhant y Wennol, mae’r nepeta yn ffynnu mewn cyfnodau sych.
Ar y rhestr o jobsys yn yr ardd wythnos yma, mae’r lafant angen ei dorri’n ôl (gyda’r gobaith o ddefnyddio’r blodau mewn bisgedi Berffro!).
Rhagor o benodau
Blaenorol
Dan sylw yn...
Podlediadau Cymraeg
Detholiad o bodlediadau Cymraeg ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Sounds
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!