Mandy Watkins
Y cynllunydd tai Mandy Watkins sy’n ymuno â Meinir i drafod adnewyddu ei thŷ fferm a’r ardd. Interior designer Mandy Watkins talks about renovating her farmhouse and garden.
Y cynllunydd tai, Mandy Watkins sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i drafod gwaith adnewyddu ar ei thŷ fferm a’r ardd lle mae hi wedi bod yn byw dros y ddeng mlynedd diwethaf ar Ynys Môn. Mae hi’n galw ei hun yn ‘reluctant gardener’ ar ôl sylweddoli’r holl waith oedden nhw’n ymgymryd unwaith i’r teulu gychwyn adnewyddu Rallt.
Yn y bennod yma, mae Mandy yn hel atgofion o’i chymdogion oedd yn garddio yn ystod ei phlentyndod a sut ddaeth yn fwy o ddiddordeb iddi yn ystod y cyfnod clo.
Fel cynllunydd, mae Mandy yn casglu ysbrydoliaeth o bob man wrth iddi freuddwydio am yr ardd berffaith - er, mae garddio yn dibynnu ar lawer mwy o ffactorau na chynllunio tai!
Lowri Johnston sy’n sôn am her go fawr a wynebodd eleni wrth iddi dyfu blodau ar gyfer ei phriodas ym mis Mai. Fel rhywun oedd wedi gwneud ychydig o arddio cyn hynny, mae hi’n sôn am ei phrofiad o dyfu mewn potiau rhan fwyaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. A fuodd yr holl waith tyfu eleni yn llwyddiannus? A be sydd ar y gweill nesaf yn yr ardd?
Rachel Griffiths a gychwynnodd garddio yn ystod ei chyfnod mamolaeth sy’n siarad am ei phrofiadau o arddio gyda’i phlant bellach. Fe gychwynnodd y diddordeb fel rhywbeth i’w wneud oedd yn wahanol i ddelio gyda’r holl boteli a napis!
Rhagor o benodau
Blaenorol
Dan sylw yn...
From Wales
Wales
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!