Main content

Hywel Pitts sy’n ymuno â Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol.
Hefyd, Ann a Gregg sy'n sôn am effaith garddio ar eu bywydau nhw ac mae Meinir yn ateb cwestiwn tymhorol.

Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol. 
Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi esblygu iddi bellach allu ei rannu gyda’r gymuned leol.
Gregg sy’n trafod y tro yn ei yrfa pan gychwynnodd ei fusnes garddio ei hun a beth mae hynny’n ei olygu iddo fel unigolyn newroamrywiol.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

30 o funudau

Dan Sylw

  • .

Podlediad