Main content

Kiri Pritchard-McLean

Kiri Pritchard McLean sy'n ymnuo â Meinir i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio. Mae Louise wedi darganfod y pleser o dyfu ei bwyd ei hun ac Alex sy'n tyfu ei blodau ei hun.

Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gymuned leol.
Louise o Lanilltud Fawr sydd wedi darganfod y pleser o dyfu ei bwyd ei hun dros y blynyddoedd diwethaf ac Alex sy’n trafod yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli i dyfu ei blodau ei hun adref.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

35 o funudau

Dan Sylw

  • .

Dan sylw yn...

Podlediad