Leisa Mererid: 'Colled aruthrol' wedi marwolaeth Mam 'fytholwyrdd'
Mae'r actores Leisa Mererid wedi son am y sioc o golli ei mam yn sydyn, dim ond ddwy flynedd wedi marwolaeth ei thad ar raglen Beti a'i Phobol.
Bu farw Margaret Edwards, oedd yn gyn-arweinydd Côr Betws Gwerful Goch ac yn un o hoelion wyth y byd cerdd dant, fis Rhagfyr 2019.
Dywedodd Leisa Mererid bod y golled yn un enfawr iddi hi a gweddill y teulu mor fuan ers profedigaeth fawr arall.
"Doedd prin dwy flynedd wedi pasio [ers colli Dad] ac o'n i'n meddwl fasa Mam yn byw am byth," meddai mewn cyfweliad ar Beti a'i Phobol ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru.
"Roedd hi'n fytholwyrdd, yn llawn egni, yn iach iawn, felly dim anhwylder arni, felly roedd o'n andros o sioc i'r teulu.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
-
Gethin Evans yn son am apnoea cwsg.
Hyd: 02:00
-
Beti a'i Phobol Ian Keith Jones
Hyd: 03:44
-
" Lle ni'n gosod y celfyddydau fel cenedl ?"
Hyd: 04:32