Main content
                
    Braint derbyn Medal Gee am oes o wasanaeth i'r Ysgol Sul
Mewn cyfnod lle mae llai o Ysgolion Sul dywed Aled Davies, Cyfarwyddwr Cyngor Ysgolion Sul Cymru, ei bod yn fraint arbennig cyflwyno Medal Gee i bedair menyw o Bontrhydfendigaid - pedair sydd wedi bod yn hynod ffyddlon i'r Ysgol Sul ar hyd y blynyddoedd.
Mae'r pedair ymhlith naw a fydd yn derbyn y fedal eleni - medal sy'n cael ei rhoi i bobl dros 75 oed sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i waith yr Ysgol Sul.
Yn eu plith mae Neli Jones a Jên Ebenezer.