Main content

"Ma fe'n ffordd i bobl ifanc fynegi a dysgu am hanes a diwylliant Cymru!"

Cragen
Ar draeth Tresaith

Y lli’ sydd yma’n fy llaw - a soned
dy synau yn alaw
i ras y bwced a rhaw,
cof eiliad ein cyfalaw.

Un llwyth pan oeddem yn llai - yn ysu
am oesoedd, ar siwrnai
at y môr i weld tro’r trai,
i fyw antur yn fintai.

A hawliem ein tywelion - yna aem
ag un naid dros wymon
yn eu dawns o don i don,
yn edrych am fôr-ladron.

I fôr a thraeth difyrrwch - i hwylio’r
heli, canfod harddwch
ogofáu, campau mewn cwch
oedd dyddiau o ddedwyddwch.

Ym Mehefin, a hi’n hwyrhau - un dydd
o doddi ar draethau,
amser i’r sêr agosáu
trwy rith ein hanturiaethau.

Yn ogof gudd i’r eigion - dy heulwen
sy’n dal yn dy blygion,
a thaith ganol haf a’i thon,
yn gafael mewn atgofion.

Bardd Mis Hydref, Non Lewis

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

12 o funudau