ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,11 mins

"Ma fe'n ffordd i bobl ifanc fynegi a dysgu am hanes a diwylliant Cymru!"

Dros Ginio

Available for over a year

Cragen Ar draeth Tresaith Y lli’ sydd yma’n fy llaw - a soned dy synau yn alaw i ras y bwced a rhaw, cof eiliad ein cyfalaw. Un llwyth pan oeddem yn llai - yn ysu am oesoedd, ar siwrnai at y môr i weld tro’r trai, i fyw antur yn fintai. A hawliem ein tywelion - yna aem ag un naid dros wymon yn eu dawns o don i don, yn edrych am fôr-ladron. I fôr a thraeth difyrrwch - i hwylio’r heli, canfod harddwch ogofáu, campau mewn cwch oedd dyddiau o ddedwyddwch. Ym Mehefin, a hi’n hwyrhau - un dydd o doddi ar draethau, amser i’r sêr agosáu trwy rith ein hanturiaethau. Yn ogof gudd i’r eigion - dy heulwen sy’n dal yn dy blygion, a thaith ganol haf a’i thon, yn gafael mewn atgofion. Bardd Mis Hydref, Non Lewis

Programme Website
More episodes