Main content

Houdini Dax

Dwi di bod yn chwarae caneuon Houdini Dax ers pan oeddynt yn dal yn yr ysgol yng Nghaerdydd.

Teitl ffaith Data ffaith
Aelodau :
Jack Butler, David Newington ac Owen Richards

Dwi di bod yn chwarae caneuon Houdini Dax ers pan oeddynt yn dal yn yr ysgol yng Nghaerdydd. Dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd hynny. Mae’n syndod bod band sydd wedi gwneud cymaint (albwm cyntaf, nifer o ymddangosiadau mewn gwyliau a theithiau) yn dal mor ffres ac mor frwdfrydig am gerddoriaeth.

Does dim modd anwybyddu’r ffaith bod dylanwadau clasurol trwm arnynt. Ond wrth wrando ar ganeuon Beatles, Turtles, Pink Floyd cynnar a Monkees (eu teidiau mae'n debyg) maent yn dod â chwa o awyr iach a chyffro.

Ond mae Houdini Dax yn fwy na dim ond taith ar hyd Penny Lane. Mae gan eu caneuon dinciau tywyll, ac mae'r cysgod hwnnw’n ddigon i’w gosod yn y presennol. Cynhyrchwyd albwm cyntaf, a oedd â mwy o syniadau ac alawon nag y byddech yn eu cael yn yr hen Brill Building.

Maent yn cael eu hystyried gan lawer yn rhai o’r bobl ifanc mwyaf cerddorol yng Nghymru.

Ym mha ffordd bynnag y bydd y potensial cerddorol hwnnw yn dwyn ffrwyth y tro nesaf, bydd yn werth ei flasu a’i sawru dro ar ôl tro ar ôl tro.

(Gan Adam Walton, cyflwynydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Wales) 

Gwefannau Eraill