ÃÛÑ¿´«Ã½ National Orchestra of Wales / Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½
For over 90 years, ÃÛÑ¿´«Ã½ National Orchestra of Wales has played an integral part in the cultural landscape of Wales, occupying a distinctive role as both broadcast and national symphony orchestra. Part of ÃÛÑ¿´«Ã½ Wales and supported by the Arts Council of Wales, it performs a busy schedule of live concerts throughout Wales, the rest of the UK and the world.
The orchestra is an ambassador of Welsh music and champions contemporary composers and musicians and its concerts can be heard regularly across the ÃÛÑ¿´«Ã½: on Radio 3, Radio Wales and Radio Cymru. ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW works closely with schools and music organisations throughout Wales and regularly undertakes workshops, side-by-side performances and young composer initiatives to inspire and encourage the next generation of performers, composers and arts leaders. In 2022 alone, ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW reached over 18,000 young people across Wales through workshops and live performances!
Upcoming highlights in 2023 for the orchestra include the ÃÛÑ¿´«Ã½ Proms, the launch of a new season of concerts in Wales from October and a new series of concerts dedicated to Welsh composer, Grace Williams due to be performed at the orchestra’s home, ÃÛÑ¿´«Ã½ Hoddinott Hall (at Wales Millennium Centre). ÃÛÑ¿´«Ã½ Hoddinott Hall also acts as a broadcast centre for the orchestra and you can expect more of ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW’s livestreamed concerts and pre recorded content as part of its popular ‘Digital Concert Series’.
Soundtrack recordings taking place in 2023 include the theme tune to the new series of Doctor Who, a new natural history series with Apple TV and an array of CD recordings with record labels from across the world. For all information please visit the ÃÛÑ¿´«Ã½ National Orchestra and Chorus of Wales website.
Related Link
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½ wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o ÃÛÑ¿´«Ã½ Cymru Wales, ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r gerddorfa’n rheolaidd ar draws y ÃÛÑ¿´«Ã½: Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3. Mae ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau. Yn 2022 yn unig, llwyddodd ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW i gyrraedd dros 18,000 o bobl ifanc ledled Cymru drwy weithdai a pherfformiadau byw!
Mae rhai o'r uchafbwyntiau sydd gan y gerddorfa ar y gweill yn 2023 yn cynnwys Proms y ÃÛÑ¿´«Ã½, lansio tymor newydd o gyngherddau yng Nghymru o fis Hydref ymlaen, a chyfres newydd o gyngherddau yn seiliedig ar waith y gyfansoddwraig o Gymru, Grace Williams, a fydd yn cael ei pherfformio yng nghartref y gerddorfa, Neuadd Hoddinott y ÃÛÑ¿´«Ã½ (yng Nghanolfan Mileniwm Cymru). Mae Neuadd Hoddinott y ÃÛÑ¿´«Ã½ hefyd yn gweithredu fel canolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa, ac fel rhan o'r Gyfres o Gyngherddau Digidol poblogaidd, bydd ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW yn darparu rhagor o gyngherddau a fydd yn cael eu ffrydio’n fyw a rhaglenni wedi’u recordio ymlaen llaw.
Ymysg rhai o'r traciau sain y bydd y gerddorfa’n eu recordio yn ystod 2023 mae’r alaw ar gyfer y gyfres newydd o Doctor Who, cyfres byd natur newydd gydag Apple TV, ac amrywiaeth o recordiadau CD gyda labeli recordio o bob cwr o’r byd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½.
