Main content

Connah Evans

Mae’r gerddoriaeth bop orau yn cynnig melodi gofiadwy a fydd ar feddwl y gwrandäwr gydol diwrnod diflas yn y gwaith; geiriau llawn gobaith sy’n eich atgoffa bod ymyl arian i bob cwmwl du, a rhythm hudolus a fyddai’n bywiogi unrhyw benwythnos. Mae Connah Evans o Ynys Môn yn ticio’r blychau i gyd.

Fact title Fact data
Arddull:
Indie Pop, Canwr-Cyfansoddwr
O:
Ynys Môn

Mewn gêm o Top Trumps, byddai Two Door Cinema Club a The 1975 yn bryderus iawn ynglÅ·n â chystadlu yn erbyn cerddoriaeth Connah.

Fel y mae llawer o ganwyr cyfansoddwyr cyfoes wedi ei wneud, mae Connah wedi dysgu sut i fanteisio ar dechnoleg recordio cartref a chylchu i fireinio a chyfleu ei ganeuon. Mae cynyrchiadau Connah yn disgleirio ac yn hoelio sylw ar ei ganeuon hynod onest a diollwng.

Ac wrth gwrs dyna’n union mae Gorwelion 2016 yn bwriadu ei wneud i Connah a’i ganeuon hefyd.

Mwy o Connah Evans