ÃÛÑ¿´«Ã½

Cod Ymddygiad y ÃÛÑ¿´«Ã½ ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio

Mae'r cod ymddygiad yma yn cynnwys ymrwymiad y ÃÛÑ¿´«Ã½ i dalwyr ffi'r drwydded ar gyfer yr holl wasanaethau a gyllidir yn gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

Ymddiriedaeth yw'r prif werth sydd gan y ÃÛÑ¿´«Ã½ ac ni allwn danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ÃÛÑ¿´«Ã½. Byddwn yn cynnal perthynas gonest ac agored gyda'n cynulleidfaoedd ac ni fyddwn yn eu camarwain yn fwriadol.

Pan fydd y cyhoedd yn ymgysylltu gyda ni drwy ryngweithio fe gânt eu trin â pharch, gonestrwydd a thegwch. Byddwn yn delio gyda phob cystadleuaeth ryngweithiol a phleidleisiau gyda gofal manwl a chywirdeb.

Ni chaiff pleidleisiau a chystadlaethau'r ÃÛÑ¿´«Ã½ eu cynnal er mwyn gwneud elw. Yr unig amser fydd cystadlaethau'r ÃÛÑ¿´«Ã½ neu bleidleisiau yn cael eu hamcanu er codi arian fydd ar gyfer un o ymgyrchoedd elusennol y ÃÛÑ¿´«Ã½.

Egwyddorion ar gyfer cystadlaethau rhyngweithiol a phleidleisiau

Mae'r egwyddorion allweddol yma yn gymwys ar gyfer pleidleisiau a chystadlaethau'r ÃÛÑ¿´«Ã½ sy'n ymgorffori gwylwyr, gwrandawyr a'r gynulleidfa ar-lein. Maent yn gymwys i elfennau rhyngweithio gynhelir dros y ffôn, negeseuon testun, defnyddio'r botwm coch, drwy'r post neu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol arall.

Mae'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn ymrwymo bod

  • cystadlaethau a phleidleisiau yn cael eu cynnal mewn modd sy'n onest, agored, teg a chyfreithiol
  • enillwyr cystadlaethau a phleidleisiau yn ddilys a byth wedi eu dyfeisio, wedi eu dewis o flaen llaw neu wedi eu trefnu gan y tîm cynhyrchu. Dylai pob cynnig fod â chyfle teg i ennill
  • ni fyddwn byth yn gofyn i rywun ymddangos fel ymgeisydd cystadleuaeth neu enillydd
  • gwobrau yn cael eu disgrifio'n gywir. Ni fyddwn yn camarwain cystadleuwyr am natur y wobr a bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau o fewn amser rhesymol
  • rheolau eglur sydd ar gael i'r cyhoedd ar gyfer unrhyw gystadleuaeth neu bleidlais.

Pa bwysau bynnag sydd i gadw'r sioe ar yr awyr, ni ddylai'r ÃÛÑ¿´«Ã½ fyth gyfaddawdu ei gywirdeb golygyddol.

Os aiff rhywbeth o'i le wrth gynnal cystadleuaeth neu bleidlais ni fyddwn yn ceisio cuddio hynny neu'n rhoi canlyniad ffug.

Y Defnydd o Wasanaethau Ffôn Cyfraddau Premiwm

Mae maint yr ymateb tebygol i rai cystadlaethau neu bleidleisiau yn golygu efallai mai llinellau cyfradd premiwm yw'r mwyaf addas i ddelio gyda nifer fawr o alwadau.

Byddwn yn nodi ar yr awyr mor eglur â phosib faint mae'r galwadau yn eu costio ac yn defnyddio'r tariff isaf posib, heblaw ein bod yn fwriadol yn codi arian ar gyfer ymgyrch elusennol gan y ÃÛÑ¿´«Ã½. Byddwn yn rhoi gwybod i'r gynulleidfa pan fo llinellau cystadlaethau neu bleidleisiau yn agor a chau.

Ar gyfer yr holl gystadlaethau neu bleidleisiau cyfraddau ffôn byddwn yn cydymffurfio gyda chod ymddygiad a gyhoeddir gan y rheolydd annibynnol PhonepayPlus (adnabuwyd gynt fel ICSTIS).

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

ÃÛÑ¿´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ÃÛÑ¿´«Ã½

ÃÛÑ¿´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ÃÛÑ¿´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.