«
»
DATGANIADAU
14 Gorffennaf 2010
DATGANIAD gan Y CYNGOR CEFN GWLAD
Gorchfygu goresgynnwr ar Wastadeddau Gwent
Ar ôl treulio deuddeg mlynedd yn ceisio cael gwared â dail-ceiniog arnofiol, mae Gwastadeddau Gwent bellach yn gwbl glir o'r chwyn goresgynnol.
Yn wreiddiol, daeth dail-ceiniog arnofiol i'r wlad yma o America. Gall y planhigyn dyfu'n hynod o gyflym - hyd at 30cm mewn diwrnod - ac mae hyn yn ei wneud yn anodd iawn ei reoli. Mae ganddo'r ddawn o ymsefydlu'n gyflym mewn llecynnau newydd, gan gau ffosydd a mygu planhigion brodorol prin sy'n bwysig mewn termau ecolegol.
Yn ôl Angela Hunt, Swyddog Cadwraeth y Cyngor Cefn Gwlad: "Mae Gwastadeddau Gwent yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) pwysig, ac mae'r holl ffosydd draenio'n lloches bwysig i amryw byd o blanhigion, er enghraifft ffugalaw bach a saethlys, yn ogystal ag anifeiliaid - gan gynnwys y fursen las amrywiol a'r chwilen blymio fwyaf."
Mae prosiect a gynhaliwyd ar y cyd gan y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-Coed a Gwastadeddau Gwynllŵg wedi cael gwared â'r dail-ceiniog arnofiol yn llwyr oddi ar Wastadeddau Gwent.
Ychwanegodd Angela: "Bu cyfraniad y bwrdd draenio'n allweddol yn y frwydr. Roedd eu gwaith trylwyr yn cynnwys dadwreiddio'r planhigyn â llaw, a hynny oddi ar gwch. Ac wrth iddyn nhw fynd i'r afael â'u gwaith beunyddiol ar y gwastadeddau, rydyn ni'n dal i ddibynnu ar eu llygaid craff er mwyn gwneud yn siŵr na fydd y planhigyn yn ailddechrau tyfu."
Dros y blynyddoedd, y gred yw bod tunelli o ddail-ceiniog arnofiol wedi cael eu tynnu o'r ffosydd.
Yn ôl Andrew Ross, peiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-Coed a Gwastadeddau Gwynllŵg: "Prif bwrpas y ffosydd draenio yma yw rheoli perygl llifogydd. Ond maen nhw hefyd yn rhan o'r dirwedd hanesyddol, yn cynnal cynefinoedd pwysig, yn ffurfio ffensys gwlyb ac yn cynnig pyllau dŵr i dda byw. Felly, mae sicrhau eu bod nhw'n glir o fudd i bawb."
Meddai Stuart Craxford, Swyddog Bioamrywiaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Dyma ganlyniad gwych i'n bywyd gwyllt brodorol. Un o'n blaenoriaethau yw
gwella ansawdd y dŵr er mwyn ceisio cyflawni ein cyfrifoldebau dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Trwy weithio ar y cyd, mi fyddwn ni'n parhau i arolygu'r ardal er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y Gwastadeddau'n gwbl glir o ddail-ceiniog arnofiol am flynyddoedd i ddod."
I gael mwy o wybodaeth am ddail-ceiniog arnofiol, neu i roi gwybod inni eich bod wedi gweld y chwynnyn, cysylltwch â gwasanaeth ymholiadau'r Cyngor Cefn Gwlad ar 08451 306229, ymholiadau@ccw.gov.uk.
Llun : Y Cyngor Cefn Gwlad