Episode details

Available for over a year
Drama gignoeth, gerddorol sy'n dilyn tri milwr ifanc o Gymru dros ugain munud di-dor yn y rheng flaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi ei fframio gan farddoniaeth Hedd Wyn. Wedi i un milwr gael ei anafu'n angheuol, mae rhai o'i gymrodyr yn gwrthod ei adael ar ei ben ei hun. Yn nhywyllwch digysgod 'No Man's Land' heb unman i droi, does ganddynt ddim ond ei gilydd, straeon am adref a chaneuon cofiadwy i leddfu eu poen. Er iddynt geisio cadw eu lleisiau'n dawel, mae Almaenwr cyfagos yn clywed eu canu angerddol; ac mae'n rhaid i'r garfan fechan lunio cynllun yn gyflym os am gadw'n ddiogel mewn sefyllfa fregus. Cast: Gareth Elis Si么n Emyr Elis Myers-Sleight Archie Christoph-Allen a Cerys Matthews Awdur a Chynhyrchydd: Gareth Owen Cyfarwyddwr Cerdd: Adam Wachter
Programme Website