ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cerdd Rydd Bro Alaw.

Y Talwrn

Available for over a year

Cerdd Rydd mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell): Troi a Throsi Dyma amlen fy meddyliau. Ynddi, ddalennau di-liw ac inc parhaol ein problemau; f’ymgais i groniclo y gwyn a’r du nad wyt ti’n ei deimlo; a leinin – papur sidan penderfyniad. Maddau i mi am fod mor eiriog wrthi; nid yw’n hawdd gwasgu’r stori i gyd i blygiadau egluro – trio esbonio pethau nad wyf fi, eto, yn llwyr eu deall fy hun. Ond, fel y gweli, gallaf grynhoi yfory, mewn un frawddeg. F’ymlid y mae’r amlen. Dal arni, rhag dy lorio ynteu ei danfon? Beth wedyn – derbyn? Sian Owen 9.15 Cyfanswm Marciau Bro Alaw: 52.5

Programme Website
More episodes