Episode details

Available for over a year
Mae crawcian bran yn y brwyn Yn gân i gofio’r gwanwyn, Gwanwyn tan warchae gaeaf, Gwanwyn oer cyn geni haf A’r gwyntoedd cry’n chwythu’n chwyrn, Claddu’r byd, ysgwyd esgyrn, Yn gyrru’n ddidrugaredd Y byw i grafangau’r bedd, A gwelwyd yno’n gelain Ŵyn braf yn borthiant i’r brain, Ac unig liwiau’r gwanwyn Yw’r gwaed ar yr eira gwyn. Dylan Davies 9
Programme Website