Main content
Cywydd: Man Gwyn.
Mae crawcian bran yn y brwyn
Yn gân i gofio’r gwanwyn,
Gwanwyn tan warchae gaeaf,
Gwanwyn oer cyn geni haf
A’r gwyntoedd cry’n chwythu’n chwyrn,
Claddu’r byd, ysgwyd esgyrn,
Yn gyrru’n ddidrugaredd
Y byw i grafangau’r bedd,
A gwelwyd yno’n gelain
Ŵyn braf yn borthiant i’r brain,
Ac unig liwiau’r gwanwyn
Yw’r gwaed ar yr eira gwyn.
Dylan Davies
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 05/05/2013
-
Pennill Ysgafn: Wrth y Bwrdd.
Hyd: 00:21
-
Cerdd Rydd: Oedi.
Hyd: 00:45
-
Cerdd Rydd: Oedi.
Hyd: 00:51
-
Cywydd: Man Gwyn.
Hyd: 00:37