ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cerdd Rydd: Oedi.

Y Talwrn

Available for over a year

Er i’m bywyd ddal i dreiglo, Y mae rhywbeth yn fy mlino, Bydd yn taro mor annisgwyl, Taro’n daer fel trawiad morthwyl. Rhwng dau air a rhwng dau damed, Rhwng dau gam wrth i mi gerdded, Yn y bwlch bach slei rhwng node, Daw i’m taro, nos a bore. Mewn cwm unig ac mewn tyrfa, Wrth i gwsg ddod drostai’n ara’, Rhwng dau feddwl wrth im’ drafod Ac wrth gyfarch eich cydnabod. Rhwng dwy ana’l, rhwng dau guriad Wrth y bwrdd, wrth geisio siarad, Rhaid i’m oedi er fy ngwaetha’ Pan ddaw hiraeth ar fy ngwartha’. Beryl Griffiths 9.5 CYFANSWM MARCIAU PENLLYN: 53.5

Programme Website
More episodes