Episode details

Available for over a year
Mae’r seren wib fu’n llenwi ffurfafen fy Eden i yn daer ei galwad o hyd, a saif fy enfys hefyd uwch trysor hud y gorwel; yn hud i’w ddal, doed a ddêl. Canys gwell yw’r lwc nis caf, yn well yr hyn na allaf; ni ddaw hedd heb ufuddhau i flys yr afal eisiau. Er perchen yr Eden hon, myrdd o hyd fy mreuddwydion. Rhys Dafis 10
Programme Website