Main content

Cywydd: Man Gwyn.

Mae’r seren wib fu’n llenwi
ffurfafen fy Eden i
yn daer ei galwad o hyd,
a saif fy enfys hefyd
uwch trysor hud y gorwel;
yn hud i’w ddal, doed a ddêl.

Canys gwell yw’r lwc nis caf,
yn well yr hyn na allaf;
ni ddaw hedd heb ufuddhau
i flys yr afal eisiau.
Er perchen yr Eden hon,
myrdd o hyd fy mreuddwydion.

Rhys Dafis

10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad

Daw'r clip hwn o