Episode details

Available for over a year
Miss Morris oedd merch y melinydd, wedi’i magu ar nodau cerdd dant, A phrifwyl yr Urdd ym Meirionnydd, fe fynnai gael parti o blant. Roedd Miss Dorris Morris o Gorris wedi ceisio croesbeillio ei hun Efo un neu ddau o ŵyr Harlech, a wedyn llanc ifanc o Lŷn. Miss Morris gadd syniad un bore, “Mi groesbeilliaf fy hun efo bardd Yn y gobaith o esgor ar hybrids, barddonol, cynhyrchiol a hardd.” Gwenynen o Went gasglodd neithdar o flodau ar gangen Llwyn Onn, Ond mae sôn fod cainc Dafydd Broffwyd hefyd braidd yn agos i’w bron. Yn gyfrin beichiogodd Miss Morris, y gog lwydlas a ganai’n y llwyn, Pan deimlodd hi fardd yn ei awen ar gyrion Pant Corlan yr Ŵyn. Yn wyrthiol cyrhaeddodd dau hybrid, daeth Borris a Norris i’r byd, Y ddau dorrai wynt ar donic sol-ffa, a llunio cynghanedd ‘run pryd. A Phrifwyl yr Urdd ddaeth i Gorris, y digwyddiad pwysicaf ‘ny plwy’ A Borris a Norris yn ysu, i gystadlu fel hybrids dan ddwy. Wedi cropian i gefn y Pafiliwn, fe daflwyd dŵr oer ar eu dawn, Gwrthodwyd i’r ddau fach gystadlu, roedd y rhagbrawf ‘di bod yn y pnawn! Yn waddol, mae gwers fach i’w dysgu, a’i chofio’n feunyddiol a wnawn Ofer croesbeillio â beirdd yn yr hwyr, os yw’r rhagbrawf i fod yn y pnawn. Aled Jones 9
Programme Website