Main content

Cân Ysgafn: Y Rhagbrawf.

Cân Ysgafn: Y Rhagbrawf.

Miss Morris oedd merch y melinydd, wedi’i magu ar nodau cerdd dant,
A phrifwyl yr Urdd ym Meirionnydd, fe fynnai gael parti o blant.

Roedd Miss Dorris Morris o Gorris wedi ceisio croesbeillio ei hun
Efo un neu ddau o ŵyr Harlech, a wedyn llanc ifanc o Lŷn.

Miss Morris gadd syniad un bore, “Mi groesbeilliaf fy hun efo bardd
Yn y gobaith o esgor ar hybrids, barddonol, cynhyrchiol a hardd.â€

Gwenynen o Went gasglodd neithdar o flodau ar gangen Llwyn Onn,
Ond mae sôn fod cainc Dafydd Broffwyd hefyd braidd yn agos i’w bron.

Yn gyfrin beichiogodd Miss Morris, y gog lwydlas a ganai’n y llwyn,
Pan deimlodd hi fardd yn ei awen ar gyrion Pant Corlan yr Å´yn.

Yn wyrthiol cyrhaeddodd dau hybrid, daeth Borris a Norris i’r byd,
Y ddau dorrai wynt ar donic sol-ffa, a llunio cynghanedd ‘run pryd.

A Phrifwyl yr Urdd ddaeth i Gorris, y digwyddiad pwysicaf ‘ny plwy’
A Borris a Norris yn ysu, i gystadlu fel hybrids dan ddwy.

Wedi cropian i gefn y Pafiliwn, fe daflwyd dŵr oer ar eu dawn,
Gwrthodwyd i’r ddau fach gystadlu, roedd y rhagbrawf ‘di bod yn y pnawn!

Yn waddol, mae gwers fach i’w dysgu, a’i chofio’n feunyddiol a wnawn
Ofer croesbeillio â beirdd yn yr hwyr, os yw’r rhagbrawf i fod yn y pnawn.

Aled Jones

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o