ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cerdd Rydd: Oedi.

Y Talwrn

Available for over a year

 blodau’r hydre’n fyw ar fedd fy nhad, daeth dynes drwynfain at y drws am dro gan sôn yn frysiog a heb eglurhad ei bod yn ’nabod ei wraig gyntaf o. Na, ni fu’n briod gynt, atebais hi, ac aeth - ond clywais ias yr arch yn cau... a’r llenni’n agor: holi’i frawd am si a fu carwriaeth goll pan oedd o’n iau. Bu farw’i wraig cyn geni geneth fach a chladdwyd mwy na chorff ymhell o’n bro, ond craith o’r dirgel ar ei galon iach a’i trawodd yntau’n greulon tua’r gro. Mae’r sgwrs na chawsom yn parhau o hyd yn oriau’r nos ar drothwy’r garreg fud. Eifion Lloyd Jones 9.5 CYFANSWM MARCIAU HIRAETHOG: 55.5

Programme Website
More episodes