Main content

Cerdd Rydd: Oedi.

 blodau’r hydre’n fyw ar fedd fy nhad,
daeth dynes drwynfain at y drws am dro
gan sôn yn frysiog a heb eglurhad
ei bod yn ’nabod ei wraig gyntaf o.
Na, ni fu’n briod gynt, atebais hi,
ac aeth - ond clywais ias yr arch yn cau...
a’r llenni’n agor: holi’i frawd am si
a fu carwriaeth goll pan oedd o’n iau.

Bu farw’i wraig cyn geni geneth fach
a chladdwyd mwy na chorff ymhell o’n bro,
ond craith o’r dirgel ar ei galon iach
a’i trawodd yntau’n greulon tua’r gro.
Mae’r sgwrs na chawsom yn parhau o hyd
yn oriau’r nos ar drothwy’r garreg fud.

Eifion Lloyd Jones

9.5

CYFANSWM MARCIAU HIRAETHOG: 55.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o