Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Yr Orymdaith (foreol i’r gwaith) Yn gynnar bob bore mae pawb am y gore yn gwisgo eu sane am saith, gan lyncu mewn munud eu Weetabix soeglyd cyn gyrru yn gysglyd i’r gwaith. Y teiars sy’n llosgi a sawl un yn rhegi wrth swyrfio drwy’r rhesi arhosol; mae rhai’n paentio’u haeliau tra’n cymryd galwadau wrth refio yn griwiau dagreuol. Ond i mi mae’n wahanol. Yn wir, reit hamddenol yw’r orymdaith foreol, heb frys. ’Rôl codi o’r gwely fe wisgaf fy onesie (nid ydw i’n credu mewn crys), ac ar ôl imi yfed fy mhedwaredd ddishgled, cael brecwast, ystyried y stocks and shares, crafu tato, glanhau’r badell ffrio, bwydo’r pysgod a sortio fy socs, gwneud croesair, barddoni, cael hoe, darllen stori am rali Cymdeithas yr Iaith a dysgu fy adnod, rwy wedyn yn barod i ddechrau gwneud diwrnod o waith. Iwan Rhys (Hywel Griffiths yn darllen) 8.5
Programme Website