Main content

Y GLÊR: Cân (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Yr Orymdaith

Yr Orymdaith (foreol i’r gwaith)

Yn gynnar bob bore mae pawb am y gore
yn gwisgo eu sane am saith,
gan lyncu mewn munud eu Weetabix soeglyd
cyn gyrru yn gysglyd i’r gwaith.
Y teiars sy’n llosgi a sawl un yn rhegi
wrth swyrfio drwy’r rhesi arhosol;
mae rhai’n paentio’u haeliau tra’n cymryd galwadau
wrth refio yn griwiau dagreuol.
Ond i mi mae’n wahanol. Yn wir, reit hamddenol
yw’r orymdaith foreol, heb frys.
’Rôl codi o’r gwely fe wisgaf fy onesie
(nid ydw i’n credu mewn crys),
ac ar ôl imi yfed fy mhedwaredd ddishgled,
cael brecwast, ystyried y stocks
and shares, crafu tato, glanhau’r badell ffrio,
bwydo’r pysgod a sortio fy socs,
gwneud croesair, barddoni, cael hoe, darllen stori
am rali Cymdeithas yr Iaith
a dysgu fy adnod, rwy wedyn yn barod
i ddechrau gwneud diwrnod o waith.

Iwan Rhys (Hywel Griffiths yn darllen)
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud