ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

CRANNOG: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Tarth

Y Talwrn

Available for over a year

(Yn ei henaint peintiodd Monet gyfres o tua 250 o ddarluniau olew o lilȉau’r dŵr a dyfai ar lan y llyn) Ti, yr hynafgwr barfog yn yr ardd, Wnest ddygnu arni ar ganfasau tyn Wrth beintio beunydd y lilȉau hardd A dyfai’n drwch ar wyneb dŵr y llyn. Fe gest dy lygad-dynnu yn ddi-os, Fel nad oedd gorwel, awyr las na gwrych Yn cael un sylw gyda’r clwstwr clós O’r blodau hyn a’r cryndod yn y crych. Teneuo a wnaeth holl liwiau’r hwyr brynhawn A’r bilen bylai’r golwg yn ddi-ball, Y coch a’r melyn mwy mewn golau gwawn Argraffai ar dy lygad hanner-dall. Ond eto yn y paent synhwyraf i Nad oedd ond tarth o ddŵr y llyn i ti. Hywel Rees 9.5

Programme Website
More episodes