ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,6 mins

Mari George - Bardd Preswyl Mehefin 2015

Rhaglen Dylan Jones

Available for over a year

Mari George, Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer Mis Mehefin 2015, ar raglen Dylan Jones. Cwpled i Gôr Glanaethwy "Cwyn ein hil sy'n eu cân hwy, ein hiaith yw Côr Glanaethwy" Englyn Mis Mehefin Awn ni'r traethau i ware'n wirion Yn haul a niwloedd cariadon Taflu'r rhwyd at freuddwydion Hawlio tês yr eiliad hon *angen to bach ar y tes!* Y Mimosa Siglo wna môr Mehefin Siglo llond crud o iaith a'r plant yn gwastraffu eu hegni yn brysio mynd i nunlle wrth chwarae ac yn nüwch corneli'r crud mae yfory yn tisian yn bygwth cipio fel y tonnau, ddaw dros y prennau ambell waith ond ni wel neb y peryg hwn ni wel neb ond llwybr y môr a'i addewidion mae'r llong yn suo'r plant i gysgu yn sŵn gobeithion ei rhieni a'r môr yn addo dim dim ond ei heneiddio

Programme Website
More episodes