Mari George - Bardd Preswyl Mehefin 2015
Mari George, Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer Mis Mehefin 2015, ar raglen Dylan Jones.
Cwpled i Gôr Glanaethwy
"Cwyn ein hil sy'n eu cân hwy, ein hiaith yw Côr Glanaethwy"
Englyn Mis Mehefin
Awn ni'r traethau i ware'n wirion
Yn haul a niwloedd cariadon
Taflu'r rhwyd at freuddwydion
Hawlio tês yr eiliad hon *angen to bach ar y tes!*
Y Mimosa
Siglo wna môr Mehefin
Siglo llond crud o iaith
a'r plant yn gwastraffu eu hegni yn brysio mynd i nunlle wrth chwarae
ac yn nüwch corneli'r crud mae yfory yn tisian
yn bygwth cipio fel y tonnau, ddaw dros y prennau ambell waith
ond ni wel neb y peryg hwn
ni wel neb ond llwybr y môr a'i addewidion
mae'r llong yn suo'r plant i gysgu
yn sŵn gobeithion ei rhieni
a'r môr yn addo dim
dim ond ei heneiddio
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 01/06/2015
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39