Episode details

Available for over a year
Edrych 'mlaen at brifwyl Meifod Bob mis Gorffennaf, r’un yw’r ddefod. Mynd i brynu rhaglen Steddfod A ffelt pen uwcholeuo felen, Cyn syllu’n graff ar bob tudalen. Wêdio wnaf trwy’r gweithgareddau, Cyfarfodydd cymdeithasau, Darlithoedd coffa, cystadlaethau, Drama, sioeau, digwyddiadau, Gigs llenyddol a chyngherddau. Odl hawdd. Pentyrru geiriau. Yna, bachaf ddarn o bapur A dechrau llunio digwyddiadur. Rhestr fer o’r pethau hynny Mae gen i awydd eu mynychu. Ond bob tro, mae’r stori’n debyg; Mae’r rhestr faith yn troi’n fwy hyblyg. Rhy sych yr araith am ffynhonnau. Rhy wlyb y môr o demtasiynau. Yn y Lle Celf, er trio ’ngorau Mi fethaf wneud dim sens o’r darnau, ’Mond crafu gên a chrychu gwefus A chocsio edrych yn ddeallus. Mae hi’n rhy oer/rhy boeth/rhy wyntog Rhy damp/rhy rynllyd neu’n rhy heulog I gerdded yr holl ffordd o famma I’r Babell Lên/Tŷ Gwerin/Cwt Drama. Y lle Gwyddoniaeth a Thechnoleg? Sgwrs Rhys Mwyn am archaeoleg? Ffer plê, mae’r cradur erbyn rwan Yn mynd i oed go dda ei hunan. Gwrando ar Eurig Salisbury’n wrol Drafod cerddi o'r Oesoedd Canol Sy'n cynnwys mensh neu ddau at seintiau? Neu'n ddefosiynol suddo peintiau? Cymanfa o delynau teires? Neu un delyn hudol Guinness? Dauganmlwyddiant Thomas Gee? Neu giwio am y lle pi-pi? I be wna’i chwysu’n y Pafiliwn A ffrindiau coleg ffansi sesiwn, Gan gynnig brynu rownd i nadu Bardd y Mis rhag dadhydradu. Ond ar frig fy rhestr innau Mewn inc coch, a phriflythrennau, A’r cyfan wedi’i danlinellu Ac asterisciaid lu o bobtu, Mae un orchwyl dyngedfennol. Rhaid i fi fod yn bresennol Wrth Gylch yr Orsedd, i weld dynas Yn cael ei hurddo o dan gynfas. Petawn i’m yno, mi dw i’n gwybod Na welwn i ddim mwy o’r Steddfod, Mond gwely’n hosbitol Amwythig. Cyfforddus, ond llai diwylliedig. Syth o famma, mi af yno, Jest rhag ofn i fi anghofio. Ces fy ngalw yn ddwl droeon. Ydw, dwl – ond dwi’m yn wirion…
Programme Website