Episode details

Available for over a year
DEFFRO Deffra! Coda! Ti ‘di wastio’r bora. Ty’d, fydd hi’n ‘fory Cyn i ti godi. Diogi cysgu, Pydru’n gwely. Llais fy mam o bellafoedd deugain niwl, a mwy, yn drybowndian fyny’r staer. Heddiw llafn fy nhafod innau wedi’i hogi a phen fy nhenyn yn agoshau. Diogi cysgu Pydru’n gwely. Deffra! Coda! Ti ‘di wastio’r bora. Ty’d, fydd hi’n ‘fory Cyn i ti godi ... Dwi’n estyn fy llaw i’th ysgwyd , I’th ddeffro ... Ond cosaf dy draed A mwytho’th wallt, A’r blynyddoedd yn llifo drwy fy mysedd; Gwenaf ar fy mychan dyflwydd, bregus Yn cysgu’n drwm, A gwrando eto ar hwiangerdd dy anadl Yn esmwytho, Y gofidio ... yn ... ymlacio, A ‘th hunlle ‘mhell bell i ffwrdd. Mae calon wadin dy fam Am adael iti am dipyn eto I bydru yn dy wely, I ddiogi cysgu, I wastio mymryn mwy o’r bora, Mi ddaw dy fory ditha’n ddigon sydyn, Ond am rhyw ronyn, Am rhyw hyd, Cwsg fy ngwas i, Cwsg, a gwyn dy fyd.
Programme Website