Main content

Deffro

DEFFRO

Deffra! Coda!
Ti ‘di wastio’r bora.
Ty’d, fydd hi’n ‘fory
Cyn i ti godi.
Diogi cysgu,
Pydru’n gwely.

Llais fy mam
o bellafoedd deugain niwl, a mwy,
yn drybowndian fyny’r staer.

Heddiw
llafn fy nhafod innau wedi’i hogi
a phen fy nhenyn yn agoshau.

Diogi cysgu
Pydru’n gwely.
Deffra! Coda!
Ti ‘di wastio’r bora.
Ty’d, fydd hi’n ‘fory
Cyn i ti godi ...

Dwi’n estyn fy llaw i’th ysgwyd ,
I’th ddeffro ...
Ond cosaf dy draed
A mwytho’th wallt,
A’r blynyddoedd yn llifo drwy fy mysedd;

Gwenaf ar fy mychan dyflwydd, bregus
Yn cysgu’n drwm,
A gwrando eto ar hwiangerdd dy anadl
Yn esmwytho,
Y gofidio ... yn ... ymlacio,
A ‘th hunlle ‘mhell bell i ffwrdd.

Mae calon wadin dy fam
Am adael iti am dipyn eto
I bydru yn dy wely,
I ddiogi cysgu,
I wastio mymryn mwy o’r bora,
Mi ddaw dy fory ditha’n ddigon sydyn,
Ond am rhyw ronyn,
Am rhyw hyd,
Cwsg fy ngwas i,
Cwsg, a gwyn dy fyd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...