Episode details

Available for over a year
Y Gêm Fawr Fe ddaeth 'rhen syrcas wirion dros y tir a chyfle i ymgolli yn y myth, ac waeth beth ddaw, cawn eto cyn bo hir berfformio'r un hen basiant, eto fyth. Fe godwn beint a chodi lleisiau cras i ddweud ein dweud heb orfod trin y bêl a gwylio gwŷr yn chwalu llawer gwas a'u dysgu nad yw'r bywyd hwn yn fêl. Ond gwn bod awydd gwirion ynof fi i herio holl gadernid gwlad y Sais, cael hyrddio'n hyll i donnau gwyn lli a chwalu nghorff yn siwrwd er mwyn cais. Mae'n beryg bod ni'n rhwym, er gwell, er gwaeth i'r reddf a yrrodd drichant i Gatraeth.
Programme Website