Y Gêm Fawr
Y Gêm Fawr
Fe ddaeth 'rhen syrcas wirion dros y tir
a chyfle i ymgolli yn y myth,
ac waeth beth ddaw, cawn eto cyn bo hir
berfformio'r un hen basiant, eto fyth.
Fe godwn beint a chodi lleisiau cras
i ddweud ein dweud heb orfod trin y bêl
a gwylio gwÅ·r yn chwalu llawer gwas
a'u dysgu nad yw'r bywyd hwn yn fêl.
Ond gwn bod awydd gwirion ynof fi
i herio holl gadernid gwlad y Sais,
cael hyrddio'n hyll i donnau gwyn lli
a chwalu nghorff yn siwrwd er mwyn cais.
Mae'n beryg bod ni'n rhwym, er gwell, er gwaeth
i'r reddf a yrrodd drichant i Gatraeth.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Bardd y Mis: Gruffudd Owen—Gwybodaeth- Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mawrth 2016. 
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
- 
                                                ![]()  Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan JonesHyd: 09:18 
- 
                                                ![]()  Dirgelwch yr WyauHyd: 01:05 
- 
                                                ![]()  Taflu paent dros Maria!Hyd: 01:47 
- 
                                                ![]()  Be well na llond bol o chwerthin?Hyd: 01:39 
 
         
             
 
             
             
            