ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

John Gwilym Jones - Gwylanod

Gwybodaeth

Available for over a year

Gwylanod Roedd Cymru yn wlad fach ddiogel i fyw a’r adar caredig mor dringar â’r dryw, ond nawr mae bygythion yn dod oddi fry ac aeth hi’n beryglus i fentro o’r tŷ, cans heddiw ym Môn neu Borthcawl, neu’n y Cei ceir gwylanod difaners a sgeler a slei. Pan fyddwch ym Menllech, a’r tywydd yn dda, mae’ch tafod yn awchu am flas hufen ia, ond gyda phob cornet mae’r siopwr yn graff yn gwerthu crash helmet i’ch cadw chi’n saff, cans wrth i chi lyfu yr hufen lliw coch daw gwylan o rywle fel bom heibio’ch boch. Ar ddydd y Gymanfa, cyn cwrdd y prynhawn, a’r dynion teledu’n rhoi’r offer yn iawn, roedd Mrs Puw Lewis mewn costiwm sidêt yn hymian rhan alto tu fas ar ryw sêt, yn sydyn daeth gwylan fel awyren fawr wen a dwyn hanner y blodau o’r hat ar ei phen. Rhaid gofyn i’r Senedd i drafod cyn hir pa fodd cawn waredu’r hen felltith o’r tir; rhaid agor rhyw goleg, a rhoi cyrsiau rhad i holl hen wylanod delincwent y wlad, a chael Donald Trump, gyda’i wên bwdin reis, i ddysgu’r gwylanod i fod yn fwy neis.

Programme Website
More episodes