Main content

John Gwilym Jones - Gwylanod

Cerdd gan John Gwilym Jones.

Gwylanod

Roedd Cymru yn wlad fach ddiogel i fyw
a’r adar caredig mor dringar â’r dryw,
ond nawr mae bygythion yn dod oddi fry
ac aeth hi’n beryglus i fentro o’r tŷ,
cans heddiw ym Môn neu Borthcawl, neu’n y Cei
ceir gwylanod difaners a sgeler a slei.

Pan fyddwch ym Menllech, a’r tywydd yn dda,
mae’ch tafod yn awchu am flas hufen ia,
ond gyda phob cornet mae’r siopwr yn graff
yn gwerthu crash helmet i’ch cadw chi’n saff,
cans wrth i chi lyfu yr hufen lliw coch
daw gwylan o rywle fel bom heibio’ch boch.

Ar ddydd y Gymanfa, cyn cwrdd y prynhawn,
a’r dynion teledu’n rhoi’r offer yn iawn,
roedd Mrs Puw Lewis mewn costiwm sidêt
yn hymian rhan alto tu fas ar ryw sêt,
yn sydyn daeth gwylan fel awyren fawr wen
a dwyn hanner y blodau o’r hat ar ei phen.

Rhaid gofyn i’r Senedd i drafod cyn hir
pa fodd cawn waredu’r hen felltith o’r tir;
rhaid agor rhyw goleg, a rhoi cyrsiau rhad
i holl hen wylanod delincwent y wlad,
a chael Donald Trump, gyda’i wên bwdin reis,
i ddysgu’r gwylanod i fod yn fwy neis.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...