Episode details

Available for over a year
O’u mewn y mae hanes. Mae rhai mewn llyfrgelloedd; ar goll y mae eraill yng ngwaelod hen gist, a’r gist ar gau cyn i rywun ddod i ddadlennu’r cyfrinachau oll, a throi’n llith academaidd oer y dymestl rhwng dau. Graenus oedd ysgrifen Goronwy, hyd yn oed wrth gofnodi marwolaeth Elin yn Walton, cyn croesi’r dŵr; cain oedd ysgrifen Kate, er ei bod, cyn priodi, yn datgelu ei rhywioldeb amwys wrth ei darpar-ŵr. Bob Parry, darlithydd â’i lythyr gan lid wedi’i lethu; Waldo, yn crwydro ar wasgar, a charchar o’i flaen, â’i ysgrifen ar wasgar hefyd, rhag y gwawd o’i drethu; roedd ysgrifen Gwenallt yn gymen, ond yn gam dan y straen o orweithio i ennill ei blwy fel ysgolhaig mewn cenedl anwadal, a’i chalon yn galetach na chraig.
Programme Website