Episode details

Available for over a year
Ar Sadwrn hir felyn tesog yn Stiniog, fe ddaethoch i grasu’r Rhosydd, i deimlo cadernid y graig, i esgyn y llechweddau du, i ymestyn tua’r awyr denau, i naddu eich esgidiau ar lechi a thorri distawrwydd hen y moelydd ag ebill eich anadl. Croesoch y llinell derfyn a’r mynydd yn ddim ond dafnau chwys ar dalcen a brychni baw ar goesau. Chi sy’n cyrraedd copaon. Chi sy’n gweld y pell yn agos a phethau bychain yn fawr. A’ch camau chi sy’n troi breuddwyd yn weledigaeth ar gwrs eich byd.
Programme Website