Episode details

Available for over a year
Fe gydiodd ias yn Stadiwm Dinas Caerdydd A lleisiau’r teras dros barhad yr heniaith Yn codi mor groch nes llwyddodd y miloedd I anghofio, bron, am boen y blynyddoedd - Cyn i’r yrfa fer gael cip o’r drofa faith; Nid gwybod, ond y gobaith ar y dydd Oedd pen draw’r daith. Ond ar ôl diawlio Roy Keane, y reff, y ddau A loriodd Joe Allen a phob chwiban ola’ Fe sgubwyd pob siom o derasau Lecwydd; Mae’r hen bennau’n meithrin y coesau newydd. Mae’r Cymry yn deall - er na fydd yr ha’ Yn rhy brysur heb Rwsia - mai parhau Wna’r dyddiau da.
Programme Website