Episode details

Available for over a year
Mam Yn sŵn clician ei gweill diwyd Lluniodd ddarluniau cain, Llawn cysur. Y pwythau gwastad yn dynn A’r lliwiau’n cyfareddu. Arafodd y gweill A llaciodd y pwythau, Cyn datod O un i un. Pylodd y lliwiau Gan adael dim ond arlliw O’r tanbeidrwydd a fu. Ond heddiw, A’r gweill mor dawel, Mae’r darluniau eto Yn llachar yn y cof.
Programme Website