ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Elinor Wyn Reynolds yw bardd preswyl mis Medi.

Bore Cothi

Available for over a year

’Nôl i’r ysgol ‘Dere ’rhen foi, mas o’r gwely ’na’n glou bore bia hi, hwyr glas i ti godi.’ ‘O, Mam, wy’n glwc, yn brin iawn o blwc, wy’n dost a ma ’mola i’n corddi.’ ‘Ond, mae’n ddechre blwyddyn ysgol, grwt, bydd gan bawb sglein ar sgidie newydd.’ ‘Sa i ishe, Mam, wy’n teimlo’n reit wan ac wy’n becso’n fawr am y tywydd.’ ‘Gad y ca’ sgwâr, trodd nos yn ddydd ers meityn a ma gwersi i’w dysgu, y twpsyn.’ ‘Sdim whant arna i, wir, ma’r gwin ’di troi’n sur wy’n teimlo mor wan â gwybedyn.’ ‘Wel, gwed beth sy mor ofnadw o wael am yr ysgol, beth yw sail dy achos?’ ‘Sneb yn lico fi, Mam, maen nhw’n gas, dyna pam, yr athrawon, heb sôn am y plantos.’ ‘Wel, mae’n rhaid i ti fynd, mae’n siŵr y gwnei ffrind, a sdim iws i ti bwdu a stranco.’ ‘Pam?’ medde fe. ‘Achos,’ medde hi, ‘Mai ti yw y blwmin prifathro.’ Elinor Wyn Reynolds

Programme Website
More episodes