Episode details

Available for over a year
Natur bur annaturiol Yn y tonnau maent heno wrthi'n cyd-weu i greu'r gro sy'n waddod yng nghysgodion nos a môr yn Ynys Môn. Natur bur annaturiol: Llwch a nialwch yn eu hôl a phlastig llygredig, rhad, yn lluoedd dan y lleuad. Clywir si'r Anthroposen a'r olew'n rhwbio'r halen i'r briw, gan bylu'r lliwiau sydd i ni'n bywiogi'r bae. Manon Awst
Programme Website