Main content
                
    Natur bur annaturiol
Natur bur annaturiol
Yn y tonnau maent heno
wrthi'n cyd-weu i greu'r gro
sy'n waddod yng nghysgodion
nos a môr yn Ynys Môn.
Natur bur annaturiol:
Llwch a nialwch yn eu hôl
a phlastig llygredig, rhad,
yn lluoedd dan y lleuad.
Clywir si'r Anthroposen
a'r olew'n rhwbio'r halen
i'r briw, gan bylu'r lliwiau
sydd i ni'n bywiogi'r bae.
Manon Awst
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Bardd Gorffennaf 2019 - Manon Awst—Gwybodaeth- Bardd Radio Cymru ar gyfer Gorffennaf 2019 yw Manon Awst. 
Mwy o glipiau 27/07/2019
- 
                                                ![]()  Manon Awst yn sgwrsio efo Dei TomosHyd: 10:30 
- 
                                                ![]()  Diogelu natur, bywyd gwyllt a tirwedd CymruHyd: 13:08 
- 
                                                ![]()  Diogelu bywyd gwyllt CymruHyd: 02:49 
 
         
             
 
             
             
             
             
             
            