ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Bardd y Mis - Llio Maddocks

Bore Cothi

Available for over a year

Pacio Be ddigwyddodd i ni'n dau nath bacio'n bywyd fyny pan oedden ni'n iau gan gario'n cartref ar ein cefn fel cranc yn cario cragen? Be ddigwyddodd i ni, hei? I'r ddau fu'n cyfri cychod wrth dorheulo ar y cei? i'r ddau nath ffitio eu holl eiddo mewn i sach? Ro'n i'n gallu codi'n bywyd cyfan efo jest un bys bach. Be ddigwyddodd i ni, tybad, i'r ddau fu'n gwawdio rheiny oedd yn prynu dodrafn yn lle profiad? Ti'n cofio fi'n deud mod i isio dim ond tŷ bach 10 metr sgwâr? Ti'n cofio ni'n addo na fysa ni byth yn berchen gwely sbâr? A heddiw dwi'n cerdded draw i'r swyddfa gwerthu tai i nol y goriadau i'n tŷ sydd efo dwy lloft sbâr, dim llai. Dwi di pacio 'mywyd mewn i bedair fan. Ro'n i'n meddwl fysa hyn yn rhwydd, ro'n i'n meddwl erbyn hyn sa gen i plan, y baswn i'n fwy na tŷ a swydd. A ti'n gwenu arnai wrth osod y peiriant golchi dillad newydd. Be sy na i swpar? Ti di dadbacio'r sosbenni? Ti'n cofio meddwl 'sa ni byth yn tyfu fyny?

Programme Website
More episodes