Episode details

Available for over a year
Er cof am gae’r Vetch Rhy hen i ’fory, rhy brin o fariau, rhy gap a mwffler yr hen amserau, rhy wyn a du, rhy hawdd i’w droi’n deiau, ac wrth i’r ddinas racso’r terasau fe wn na welaf innau – fyth rhagor yno’r un Ivor, na’r hen aeafau. Cae’r Vetch (sy’n rhandiroedd bellach) Mae’r Vetch yn gabetsh i gyd, yn dew gan arddwyr diwyd; yn ddi-hid carfan a ddaeth i balu fy mabolaeth, i droi Eden yr enaid yn bys, yn bannas di-baid, ac ar y maes bags Grow-more a saif lle dawnsiai Ivor, ein Ifor Hael. Gwael yw gwedd y moron lle bu mawredd. A chof yn fresych hefyd mae’r Vetch yn gabetsh i gyd. Y Prifardd Idris Reynolds
Programme Website