15 mlynedd ers y gem ola' ar y Vetch, Abertawe
Er cof am gae’r Vetch
Rhy hen i ’fory, rhy brin o fariau,
rhy gap a mwffler yr hen amserau,
rhy wyn a du, rhy hawdd i’w droi’n deiau,
ac wrth i’r ddinas racso’r terasau
fe wn na welaf innau – fyth rhagor
yno’r un Ivor, na’r hen aeafau.
Cae’r Vetch 
(sy’n rhandiroedd bellach)
Mae’r Vetch yn gabetsh i gyd,
yn dew gan arddwyr diwyd;
yn ddi-hid carfan a ddaeth
i balu fy mabolaeth,
i droi Eden yr enaid 
yn bys, yn bannas di-baid,
ac ar y maes bags Grow-more
a saif lle dawnsiai Ivor,
ein Ifor Hael. Gwael yw gwedd
y moron lle bu mawredd.
A chof yn fresych hefyd
mae’r Vetch yn gabetsh i gyd.
Y Prifardd Idris Reynolds
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ailstrwythuro gêm y merched yng Nghymru.
- 
                                                ![]()  Pwy di'r gorau, Aguero neu Ronaldo ?Hyd: 06:24 
- 
                                                ![]()  Strwythr newydd i gêm y merched yng NghymruHyd: 03:55 
Mwy o glipiau Ar y Marc
- 
                                                ![]()  Joe Healey, y Womble sy'n cefnogi CymruHyd: 04:43 
- 
                                                ![]()  Alan Llwyd, Cofio LeightonHyd: 02:09 
 
         
             
             
             
             
             
            