Episode details

Available for over a year
Y Gofid Mae e’n gyfnod od o hyd A’r haf yn bryder hefyd; Ei foreau’n afreal A phob trefn drachefn ar chwâl. Ymbellhau; ac ambell un Yn ymdopi am dipyn, Yn gweld anwyliaid heb gwrdd Yng nghyffion sgrin anghyffwrdd. Ar yr hewl at yr aelwyd Y daw’r fan â’i stôr o fwyd: Nhw yw sgwad y sgwrs-a-gwên – I eiddilwch yn ddolen; Rhai dinod, rhai dienw Y byddai’n od hebddyn nhw, O dŷ i dŷ eto’n dod Gan nacáu ofnau’r cyfnod. Rhaid diolch i’r rhai diwyd Am eu gwaith drwy’r storm i gyd, A gwn yn iawn yr awn ni Ymlaen drwy storm eleni. Mae’n anochel dychwelyd I allu byw mewn gwell byd, A daw’r adar byddarol Â’r haf yn araf yn ôl.
Programme Website